2013 Rhif 1700 (Cy. 164)

iechyd planhigion, cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn pennu ffioedd sy'n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd planhigion. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/1493 (Cy.191)) (“Rheoliadau 2012”) (rheoliad 7). Nid ydynt yn cyflwyno unrhyw fathau newydd o ffi na ddarparwyd ar eu cyfer yn Rheoliadau 2012.

Mae'r ffioedd yn daladwy mewn perthynas ag arolygiadau penodedig a gweithrediadau eraill a gyflawnir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i'r Gymuned organebau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i'r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t.1).

 

Pennir y ffioedd am wiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion mewn perthynas â mewnforion penodol o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o drydydd gwledydd (rheoliad 2 ac Atodlenni 1, 2 a 3) yn unol â'r gofyniad yn Erthygl 13d o Gyfarwyddeb 2000/29/EC.

 

Lefelau'r ffioedd y darperir ar eu cyfer yn y Rheoliadau hyn yw’r ail ran o symudiad fesul cam, dros gyfnod o dair blynedd, tuag at ffioedd sy'n adennill y gost lawn. Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cynnydd cyfartalog ar y ffioedd a bennwyd yn Rheoliadau 2012 fel a ganlyn:

(1) ffioedd arolygu mewnforio (heblaw gwiriad dogfennol a gwiriad adnabod) yn ôl 5% (rheoliad 2 ac Atodlenni 1 a 2);

(2) ffioedd ynglŷn ag arolygu tatws hadyd yn ôl 5% (rheoliad 3 ac Atodlen 4);

(3) ffioedd trwyddedu yn ôl 1.6% (rheoliad 4 ac Atodlen 5);

(4) ffioedd am wasanaethau pasbortau planhigion yn ôl 20% (rheoliad 5); a

(5) ffioedd am arolygu tatws sy’n tarddu o’r Aifft yn ôl 25% (rheoliad 6).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer gostyngiad o 19% ar y ffioedd a bennwyd yn Rheoliadau 2012 am wiriad dogfennol a gwiriad adnabod wrth fewnforio (rheoliad 2 ac Atodlen 3). Ceir rhagor o fanylion yn y Memorandwm Esboniadol.

Cafodd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol ei ystyried o ran y Rheoliadau hyn.  O ganlyniad, mae asesiadau effaith rheoleiddiol wedi eu paratoi ynghylch yr effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes, o ran pob un o’r pum math o ffioedd yr ymdrinnir â hwy yn yr offeryn hwn a gellir eu cael oddi wrth Adran yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays,  Caerdydd CF10 3NQ.

 

 

 

 

           

           


2013 Rhif 1700 (Cy. 164)

iechyd planhigion, cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2013

Gwnaed                             7 Gorffennaf 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       10 Gorffennaf 2013

Yn dod i rym                              2 Awst 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn, â chydsyniad y Trysorlys, drwy arfer pwerau a roddir gan adran 56(1) a (2) o Deddf Cyllid 1973([1]) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy([2]).

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2013. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 2 Awst 2013.

(2) Yn y Rheoliadau hyn—

(a)     ystyr “y Gyfarwyddeb (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i'r Gymuned organebau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i'r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned([3]); a

(b)     ystyr “y GIP” (“the PHO”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006([4]).

(3) Mae i'r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir eu cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag a roddir i'w cyfystyron Saesneg yn y  Gyfarwyddeb.

Ffioedd arolygu mewnforio

2.(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys o ran llwythi o’r canlynol—

(a)     planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 a restrir yn Rhan B o Atodiad V i'r Gyfarwyddeb, a

(b)     hadau Solanaceae, pa un a restrir hwy ai peidio yn y Rhan honno,

a ddygir i mewn i Gymru o wlad neu diriogaeth ac eithrio un sydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd neu sy'n destun cytundeb a wnaed o dan erthygl 12(6) o'r GIP.

(2) Ar yr adeg y mewnforir llwyth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i'r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru—

(a)     y ffi a bennir—

                           (i)    yng ngholofn 3 o Atodlen 1 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno, ac eithrio llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion y mae paragraff (ii) o'r is-baragraff hwn yn gymwys iddo; neu

                         (ii)    yng ngholofn 4 o Atodlen 2 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno ac sy'n tarddu o wlad a restrir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno; a

(b)     y ffioedd a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 3 am wiriad dogfennol a gwiriad adnabod.

(3) Ond, pan gynhelir gwiriad iechyd planhigion ar lwyth y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, a hynny ar gais y mewnforiwr neu unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y llwyth, y ffi sy'n daladwy o dan baragraff (2)(a) mewn perthynas â'r llwyth hwnnw yw—

(a)     y ffi a bennir yng ngholofn 4 o Atodlen 1 os yw'r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(i) yn gymwys iddo; neu

(b)     y ffi a bennir yng ngholofn 5 o Atodlen 2 os yw'r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(ii) yn gymwys iddo.

(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “oriau gwaith yn ystod y dydd” (“daytime working hours”) yw unrhyw amser rhwng yr oriau 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971([5]).

Tatws hadyd: ffioedd

3.(1)(1) Mae'r ffioedd a bennir yn Atodlen 4 yn daladwy mewn perthynas â'r swyddogaethau a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno, sy'n ymwneud â chais am y canlynol—

(a)     ardystiad o datws hadyd yn unol â rheoliad 9 o'r Rheoliadau Tatws Hadyd;

(b)     awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â rheoliad 8 o'r Rheoliadau hynny.

(2) Mae'r ffi sy'n daladwy mewn perthynas â swyddogaeth yn ddarostyngedig i unrhyw leiafswm ffi a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 4 mewn perthynas â'r swyddogaeth honno.

(3) Rhaid talu'r ffi mewn perthynas â swyddogaeth a bennir yn Atodlen 4 i Weinidogion Cymru neu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru i gyflawni’r swyddogaeth honno o dan y Rheoliadau Tatws Hadyd ar ran Gweinidogion Cymru.

(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y Rheoliadau Tatws Hadyd” (“the Seed Potatoes Regulations”) yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006([6]).

Ffioedd am drwyddedau iechyd planhigion

4.(1)(1) Mae'r ffioedd sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn yn ymwneud â thrwydded a ddisgrifir yn erthygl 40 neu 41 o'r GIP.

(2) Mewn perthynas â chais neu arolygiad o fath a ddisgrifir yng ngholofn 2 o Atodlen 5, rhaid i berson dalu i Weinidogion Cymru y ffi a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno mewn  perthynas â'r math hwnnw o gais neu arolygiad.

Ffioedd am awdurdodi pasbortau planhigion

5.(1)(1) Rhaid talu'r ffi a bennir ym mharagraff (2) i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag unrhyw arolygiad (gan gynnwys arolygiad o gofnodion busnes) a gyflawnir mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)     cais am awdurdod; neu

(b)     sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw ofynion a osodir ar ddeiliad awdurdod.

(2) Y ffi yw £38.05([7]) am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr (gan gynnwys yr amser a dreulir ar arolygu, ar deithio ac ar weinyddu cysylltiedig), yn ddarostyngedig i leiafswm ffi o £76.10([8]) am bob ymweliad.

(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod” (“authority”“) yw awdurdod i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir o dan erthygl 8 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006([9]) neu erthygl 29 o’r GIP.

Tatws sy'n tarddu o'r Aifft: ffioedd

6.(1)(1) Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy'n tarddu o'r Aifft, er mwyn canfod, at ddibenion paragraff 5 o'r Atodiad i'r Penderfyniad, a yw'r tatws hynny wedi eu heintio â Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., rhaid i'r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru ffi o £117.36([10]) mewn perthynas â phob lot y cymerir sampl ohoni.

(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “y Penderfyniad” (“the Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu'r Comisiwn 2011/787/EU sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i weithredu mesurau argyfwng dros dro yn erbyn lledaenu Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., mewn cysylltiad â'r Aifft([11]).

Dirymu

7. Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2012([12]) wedi eu dirymu.

 

 

 

 

 

Alun Davies

 

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

 

7 Gorffennaf 2013


ATODLEN 1                Rheoliad 2(1)(a), (2)(a)(i) a (3)(a)

Ffioedd Arolygu Mewnforio

 

Colofn 1

Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall

Colofn 2

Swm

Colofn 3

Ffi am bob llwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£)

Colofn 4

Ffi am bob llwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)

Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd coedwigaeth atgenhedlol), planhigion ifanc mefus neu lysiau

hyd at 10,000 o ran nifer

49.66

74.50

am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny

1.98, hyd at uchafswm o 397.31

2.97, hyd at uchafswm o 595.97

Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi'u torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill yn cynnwys deunydd coedwigaeth atgenhedlol (ac eithrio hadau)

hyd at 1,000 o ran nifer

49.66

74.50

am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny

1.22, hyd at uchafswm o 397.31

1.83, hyd at uchafswm o 595.97

Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (ac eithrio cloron tatws) a fwriedir ar gyfer eu plannu

hyd at 200 kg

49.66

74.50

am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny

0.45, hyd at uchafswm o 397.31

0.68, hyd at uchafswm o 595.97

Hadau, meithriniadau meinwe

hyd at 100 kg

21.28

31.93

am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny

0.49, hyd at uchafswm o 397.31

0.73, hyd at uchafswm o 595.97

Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon

hyd at 5,000 o ran nifer

49.66

74.50

am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny

0.49, hyd at uchafswm o 397.31

0.73, hyd at uchafswm o 595.97

Blodau wedi’u torri

hyd at 20,000 o ran nifer

49.66

74.50

am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny

0.38, hyd at uchafswm o 397.31

0.57, hyd at uchafswm o 595.97

Canghennau gyda deiliant, rhannau o gonifferau (ac eithrio coed Nadolig wedi'u torri)

 

hyd at 100 kg

49.66

74.50

am bob 100 kg ychwanegol, neu ran o hynny

4.94, hyd at uchafswm o 397.31

7.41, hyd at uchafswm o 595.97

Coed Nadolig wedi’u torri

hyd at 1,000 o ran nifer

49.66

74.50

am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny

4.94, hyd at uchafswm o 397.31

7.41, hyd at uchafswm o 595.97

Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog

hyd at 100 kg

49.66

74.50

am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny

4.94, hyd at uchafswm o 397.31

7.41, hyd at uchafswm o 595.97

Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog)

 

hyd at 25,000 kg

49.66

74.50

am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny

1.98

2.97

Cloron tatws

hyd at 25,000 kg

148.99 (am bob lot)

223.49 (am bob lot)

am bob 25,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny

148.99 (am bob lot)

223.49 (am bob lot)

Pridd a chyfrwng tyfiant, rhisgl

 

hyd at 25,000 kg

49.66

74.50

am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny

1.89, hyd at uchafswm o 397.31

2.97, hyd at uchafswm o 595.97

Grawn

hyd at 25,000 kg

49.66

74.50

am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny

1.98, hyd at uchafswm o 1986.56

2.97, hyd at uchafswm o 2979.84

Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon, ac eithrio coed fforestydd

 

am bob llwyth

49.66

74.50

 

 

                                             ATODLEN 2             Rheoliad 2(2)(a)(ii) a (3)(b)

Ffioedd Arolygu Mewnforio: Cyfraddau Gostyngol

 

Colofn 1

Genws

Colofn 2

Swm

Colofn 3

Gwlad tarddiad

Colofn 4

Ffi am bob llwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£)

Colofn 5

Ffi am bob llwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)

Blodau wedi’u torri

Aster

hyd at 20,000 o ran nifer

Zimbabwe

37.24

55.87

am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny

Zimbabwe

1.48, hyd at uchafswm o 297.98

2.22, hyd at uchafswm o 446.97

Dianthus

hyd at 20,000 o ran nifer

Colombia

2.48

3.72

Ecuador

4.96

7.45

Kenya

2.48

3.72

Twrci

12.42

18.62

am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny

Colombia

0.02, hyd at uchafswm o 19.87

0.03, hyd at uchafswm o 29.80

Ecuador

0.04, hyd at uchafswm o 39.72

0.07, hyd at uchafswm o 59.58

Kenya

0.02, hyd at uchafswm o 19.87

0.03, hyd at uchafswm o 29.80

Twrci

0.10, hyd at uchafswm o 99.36

0.16, hyd at uchafswm o 149.04

Rosa

hyd at 20,000 o ran nifer

Colombia

1.43

2.14

Ecuador

1.43

2.14

Ethiopia

4.96

7.41

Kenya

2.48

3.72

Tanzania

4.96

7.42

Uganda

12.42

18.62

Zambia

12.42

18.62

am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny

Colombia

0.01, hyd at uchafswm o 11.89

0.01, hyd at uchafswm o 17.84

Ecuador

0.01, hyd at uchafswm o 11.89

0.01, hyd at uchafswm o 17.84

Ethiopia

0.04, hyd at uchafswm o 39.72

0.06, hyd at uchafswm o 59.58

Kenya

0.02, hyd at uchafswm o 19.87

0.03, hyd at uchafswm o 29.80

Tanzania

0.04, hyd at uchafswm o 39.72

0.07, hyd at uchafswm o 59.58

Uganda

0.07, hyd at uchafswm o 99.36

0.10, hyd at uchafswm o 149.04

Zambia

0.07, hyd at uchafswm o 99.36

0.10, hyd at uchafswm o 149.04

Canghennau gyda deiliant

Phoenix

hyd at 100 kg

Costa Rica

17.35

26.03

am bob 100 kg ychwanegol neu ran o hynny

Costa Rica

1.70, hyd at uchafswm o 139.05

2.56, hyd at uchafswm o 208.57

Ffrwythau

Citrus

hyd at 25,000 kg

Yr Aifft

7.45

11.17

Israel

4.96

7.41

Mecsico

7.45

11.17

Moroco

2.48

3.72

Periw

12.42

18.62

Tunisia

12.42

18.62

Twrci

1.46

2.19

Uruguay

7.45

11.17

UDA

7.45

11.17

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Yr Aifft

0.28

0.42

Israel

0.21

0.31

Mecsico

0.28

0.42

Moroco

0.07

0.10

Periw

0.49

0.73

Tunisia

0.49

0.73

Twrci

0.03

0.05

Uruguay

0.28

0.42

UDA

0.28

0.42

Malus

hyd at 25,000 kg

Ariannin

4.96

7.41

Brasil

12.42

18.62

Chile

2.47

3.70

Seland Newydd

4.96

7.41

De Affrica

2.47

3.70

UDA

17.38

26.07

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Ariannin

0.21

0.31

Brasil

0.49

0.74

Chile

0.07

0.10

Seland Newydd

0.21

0.31

De Affrica

0.07

0.10

UDA

0.69

1.03

Passiflora

hyd at 25,000 kg

Colombia

4.94

7.41

Kenya

4.94

7.41

De Affrica

24.83

37.25

Zimbabwe

24.83

37.25

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Colombia

0.17

0.26

Kenya

0.17

0.26

De Affrica

0.97

1.46

Zimbabwe

0.97

1.46

Prunus

hyd at 25,000 kg

Ariannin

24.83

37.25

Chile

4.96

7.41

Moroco

24.83

37.25

De Affrica

4.96

7.41

Twrci

7.44

11.17

UDA

7.44

11.17

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Ariannin

0.97

1.46

Chile

0.17

0.26

Moroco

0.97

1.46

De Affrica

0.17

0.26

Twrci

0.29

0.44

UDA

0.29

0.44

Pyrus

hyd at 25,000 kg

Ariannin

4.96

7.41

Chile

12.42

18.62

Tsieina

24.83

37.25

De Affrica

4.96

7.41

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Ariannin

0.17

0.26

Chile

0.49

0.73

Tsieina

0.97

1.46

De Affrica

0.17

0.26

Vaccinium

hyd at 25,000 kg

Ariannin

11.74

17.61

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Ariannin

0.47

0.71

Llysiau

 

 

 

 

Momordica

hyd at 25,000 kg

Surinam

24.83

37.25

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Surinam

0.97

1.46

Solanum melongena

hyd at 25,000 kg

Kenya

4.96

7.41

Twrci

4.96

7.41

am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny

Kenya

0.17

0.26

Twrci

0.17

0.26

 

 

                                             ATODLEN 3                          Rheoliad 2(2)(b)

Ffioedd Arolygu Mewnforio: Gwiriadau Dogfennol a Gwiriadau Adnabod

 

Colofn 1

Gwiriad

Colofn 2

Swm

Colofn 3

Ffi (£)

Dogfennol

am bob llwyth

4.31

Adnabod

am bob llwyth hyd at faint llwyth lori, llwyth wagen reilffordd neu lwyth

cynhwysydd o faint cymharol

4.31

am bob llwyth sy’n fwy na’r maint uchod

8.62

 

 

                                             ATODLEN 4                                 Rheoliad 3

Tatws Hadyd: Ffioedd

 

Colofn 1

Swyddogaeth

Colofn 2

Ffi (1) (£)

Colofn 3

Isafswm ffi (£)

Arolygu cnydau sy'n tyfu a darparu labeli a seliau mewn perthynas â cheisiadau

Ardystio fel tatws hadyd cyn-sylfaenol

129.84*

d/g

Ardystio fel

tatws hadyd

sylfaenol a

ddosberthir

fel:

 

super elite 1, super elite 2 neu super elite 3

64.92

129.84

elite 1, elite 2 neu elite 3

64.92

129.84

A

61.71

123.43

Ardystio fel tatws hadyd ardystiedig

56.10

112.20

Awdurdodiad i farchnata tatws hadyd

129.84*

d/g

Arolygu cloron a gynaeafwyd

Hyd at ddau arolygiad

19.24

38.47

Trydydd arolygiad ac arolygiadau dilynol

129.84*

d/g

(1) Mae'r cyfraddau, a restrir yn y golofn hon ac yng ngholofn 3, sydd wedi eu marcio â seren yn gyfraddau fesul awr neu ran o awr, a'r cyfraddau nad ydynt wedi eu marcio felly yn gyfraddau fesul hanner hectar neu ran o hanner hectar.

 

 

                                                       

                                             ATODLEN 5                             Rheoliad 4(2)

Ffioedd am Drwyddedau Iechyd Planhigion

 

Colofn 1

Eitem

Colofn 2

Math o gais neu arolygiad

Colofn 3

Ffi (£)

1

Cais am drwydded ac eithrio trwydded sy'n dod o fewn eitem 2 neu 3

793.03

2

Cais am drwydded mewn perthynas â phridd neu gyfrwng tyfu arall ar gyfer ei ddadansoddi

572.02

3

Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu ddibenion treialu, sy'n ymwneud â 5 neu ragor o fathau o bethau

793.03, plws 31.20 am bob math o beth dros ben y 5

4

Cais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau, pan fo asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol

260.01

5

Cais am adnewyddu trwydded heb newidiadau, neu gais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau bach yn unig, pan nad yw asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol

31.20

6

Arolygu a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) i fonitro cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau trwydded.

42.75 am bob awr neu ran o awr

 



([1])           1973 p.51. Diwygiwyd is-adran (1) gan O.S. 2011/1043, erthygl 6(1)(e).

([2])           Yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 p.32.

([3])           OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t.1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/1/EU (OJ Rhif L 7, 12.1.2010, t.17).

([4])           O.S. 2006/1643 (Cy.158).

([5])           1971 p.80; gweler adran 1 ac Atodlen 1.

([6])           O.S. 2006/2929 (Cy.264).

([7])           Y ffi gyfatebol a oedd yn daladwy o dan reoliad 5(2) o Reoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/1493 (Cy.191)) cyn i’r Rheoliadau hyn gychwyn oedd £31.50.

([8])           Y ffi isaf gyfatebol a oedd yn daladwy o dan  reoliad 5(2) o Reoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/1493 (Cy.191)) cyn i’r Rheoliadau hyn gychwyn oedd £63.00.

([9])           O.S. 2006/1344 (Cy.134).

([10])         Y ffi gyfatebol a oedd yn daladwy o dan reoliad 6(1) o Reoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/1493 (Cy.191)) cyn i’r Rheoliadau hyn gychwyn oedd £87.80.

([11])         OJ Rhif L 319, 2.12.2011, p.112.

([12])         O.S. 2012/1493 (Cy.191)